Cofio’r rhai a laddwyd; ymgyrch gyrrwr trên o Gaerfyrddin i anrhydeddu’r dynion rheilffordd a fu farw yn y Rhyfel Mawr: Carmarthen station plaque unveiling ceremony

17/07/19

Cofio’r rhai a laddwyd; ymgyrch gyrrwr trên o Gaerfyrddin i anrhydeddu’r dynion rheilffordd a fu farw yn y Rhyfel Mawr

Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio yng ngorsaf Caerfyrddin i goffáu can mlynedd ers i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben y llynedd, gan gofio’r dynion rheilffordd dewr a oedd yn gysylltiedig â GWR Caerfyrddin, a aberthodd eu bywydau dros eu gwlad ar faes y gad.

Mae Simon Biggs o Gaerfyrddin yn Yrrwr Trenau Trafnidiaeth Cymru ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn hanes. Bu’n rhan allweddol o’r gwaith ymchwil i’r gyrwyr trenau a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ochr yn ochr â’r hanesydd o Dalacharn, Steven John.

Daeth dros 100 o bobl, gan gynnwys pwysigion lleol a chynrychiolwyr o'r Lluoedd Arfog a’r rheilffordd i’r digwyddiad dadorchuddio’r plac. 

“Rwy’n teimlo bod angen i ni gofio’r dynion hyn, a wnaeth yr aberth fwyaf, ac aberthu eu bywydau dros eu gwlad,” meddai Simon, sydd hefyd yn Gadeirydd Grŵp y Ford Gron yn lleol.

“Mae’n hawdd ymgolli yn y pethau yma pan fyddwch chi’n gwneud gwaith ymchwil ac yn dysgu am fywydau pobl. Gan fy mod innau wedi bod yn gweithio ar y rheilffordd ers 2000 ac wedi cael fy ngeni a’m magu yng Nghaerfyrddin hefyd, mae rhywun yn teimlo’n llawer agosach at y bobl rydych chi’n ymchwilio iddyn nhw.” 

Mae’r plac yn cofio wyth o ddynion o hen ddepo GWR a fu’n brwydro ac a fu farw dros eu gwlad. Maent yn cynnwys y brodyr Tansill a gafodd eu magu yn rhif 1 Tonwy Villa, Station Road, Caerfyrddin, sydd dal yn sefyll hyd heddiw.

Arferai Frederick weithio yn helpu i baentio yn y depo ac roedd William yn glanhau’r injans. 

Bu'r ddau yn ymladd mewn gwahanol gatrodau, a hynny ag anrhydedd. Bu farw William o ddysentri yn Alexandria yn 1917 a bu farw ei frawd yn Aisne, Ffrainc y flwyddyn ganlynol, dim ond dau fis cyn i’r rhyfel ddod i ben. 

FredTansill
WilliamTansill

(Y brodyr Tansill)

Mae Edwin Isaac Thomas yn ŵr arall sy’n cael ei goffáu. Cafodd Edwin ei fagu yn Little Water Street yn y dref cyn symud i Priory Street ar ôl iddo briodi. Bu’n gweithio fel Ceidwad Amser a Siop yn Depo GWR yng Nghaerfyrddin, cyn gwneud yr un swydd yn y Depo yn Llanelli.  Bu’n gwasanaethu fel rhingyll-hyfforddwr yn adran signalau’r Gatrawd Gymreig ond cafodd ei ladd ar faes y gad yn Gaza ym mis Tachwedd 1917 ac yntau ond yn 27 oed.

EdwardIsaacThomas

(Bedd Edwin Isaac Thomas)

Wrth drafod y prosiect, eglurodd Simon: “Mae gen i ddiddordeb brwd mewn sawl agwedd ar hanes, ac rwyf wedi bod yn treulio llawer o fy amser hamdden yn ymchwilio i fy hynafiaid, yn arbennig y rhai a fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn ymchwilio i wasanaeth fy hynafiaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r Rhyfel mawr wedi cael effaith ddofn a pharhaus ar y wlad, ac mae nifer o sefydliadau lleol yng Nghaerfyrddin yn cynnwys enwau’r rhai a fu farw ar blaciau coffa, fel nad yw pobl yn anghofio.

image5

(Y plac coffa)
“A hithau’n gan mlynedd ers i'r rhyfel ddod i ben, roedd hi’n teimlo’n briodol cael plac coffa yng Ngorsaf Caerfyrddin, gyda Rhestr y Gwroniaid wedi’i ysgrythu arno ac enwau’r Dynion Rheilffordd o Gaerfyrddin a fu farw.”

Noddwyd y plac coffa gan y Ford Gron, Trafnidiaeth Cymru, Undebau Llafur RMT ac ASLEF, Signalwyr Gorllewin Cymru a Byddin Prydain.

image1-2

(Simon Biggs)

Contact Information

James Nicholas

Rheolwr Cyfathrebu/Communications Manager

Trafnidiaeth Cymru/Transport For Wales Rail Services

02920720697

james.nicholas@tfwrail.wales